Download the App!
show episodes
 
Artwork
 
Cyflwyniad hwyliog i hanes llenyddiaeth Gymraeg, gyda, Jerry Hunter, hogyn o’r Midwest yn America yn dysgu Richard Wyn Jones, hogyn o ganolbarth Sir Fôn, am drysorau’i iaith ei hun.
  continue reading
 
Loading …
show series
 
Ar ôl nodi bod llwyth o ganu caeth Cymraeg o’r cyfnod ac enwi rhai o feirdd pwysig nad oes gennym amser i’w trafod, canolbwyntiwn ar ddwy gerdd gaeth o ddechrau’r ail ganrif ar bymtheg sy’n cynnig mewnwelediad i fywyd un teulu uchelwrol – Dafydd Llwyd a’i wraig Catrin Owen o’r Henblas, Llangristiolus, Môn. Edrychwn yn gyntaf ar gywydd a gyfansoddwy…
  continue reading
 
A ninnau wedi recordio 50 o benodau, rydym ni’n dathlu’r garreg filltir trwy drafod un o feirdd mwyaf diddorol y cyfnod modern cynnar, Richard Hughes o Gefnllanfair yn Llŷn. Nodwn ei fod yn un o nifer o feirdd Cymraeg a oedd yn treulio llawer o amser yn Llundain yn oes Elizabeth I. Roedd Richard Hughes yn ffwtman, yn was a wasanaethai’r frenhines e…
  continue reading
 
Dechreuwn yn y bennod hon drwy ystyried rhywbeth y mae llawer ohonom yng Nghymru’n ei gymryd yn ganiataol, sef y gwahaniaeth rhwng canu caeth Cymraeg a chanu rhydd. Awgrymwn fod agweddau cymdeithasol ac ideolegol ar y gwahaniaeth mydryddol sylfaenol hwn. Canolbwyntiwn ar farddoniaeth rydd a gyfansoddwyd yn yr unfed ganrif ar bymtheg ac ar ddechrau’…
  continue reading
 
Dyma bennod a recordiwyd o flaen cynulleidfa fyw yn siop lyfrau Storyville, Pontypridd yn ystod Eisteddfod Genedlaethol 2024. Ac yntau newydd orffen ei ddarllen, roedd Richard Wyn Jones am drafod llyfr diweddaraf ei gyd-gyflwynydd, Dros Gyfiawnder a Rhyddid. Mae’n gyfrol sy’n darlunio hanes cymuned Gymraeg benodol yn ystod Rhyfel Cartref America, g…
  continue reading
 
Yr ymryson a gynhelid rhwng Edmwnd Prys a Wiliam Cynwal yn y 1580au yw’r ddadl farddol hwyaf yn holl hanes yr iaith Gymraeg. Mae’n cynnwys 53 o gywyddau a thros 4,000 o linellau, a marwolaeth yr hen fardd Wiliam Cynwal yw’r unig beth a ddaeth â’r ymrafael i ben. Trafodwn yr ymryson rhyfeddol hwn yn y bennod hon, gan egluro’r dechrau cyn craffu ar h…
  continue reading
 
Mae’r bennod hon yn canolbwyntio ar y ffactorau a oedd yn tanseilio’r gyfundrefn farddol Gymraeg yn ystod ail hanner yr unfed ganrif ar bymtheg. Trafodwn dair her yn benodol, gan ddechrau gyda’r ffaith bod pwll nawdd yn crebachu gan ei gwneud yn anos i fardd ennill bywoliaeth trwy ganu mawl. Ystyriwn her syniadau ac agweddau’r dyneiddwyr hefyd a’r …
  continue reading
 
Gan ein bod ni wedi edrych ar y berthynas rhwng dyneiddiaeth, Protestaniaeth a’r iaith Gymraeg yn ddiweddar, dyma gyfle i ystyried ochr arall ceiniog y Diwygiad.Trafodwn ychydig o lenyddiaeth Gymraeg Gatholig yr unfed ganrif ar bymtheg yn y bennod, gan ganolbwyntio ar ddau gyfaill rhyfeddol, Morris Clynnog a Gruffudd Robert. Bu’n rhaid i’r ddau ddy…
  continue reading
 
Yn y bennod hon trafodwn gamp ryfeddol William Morgan, Beibl Cymraeg 1588. Bid a fo am ei harwyddocâd crefyddol amlwg, canolbwyntiwn ar arwyddocâd y garreg filltir hon o safbwynt hanes yr iaith Gymraeg a’i llenyddiaeth. Un o’r pethau sy’n gwneud y Gymraeg yn iaith mor anhygoel o gyfoethog yw’r amrywiaeth o gyweiriau sydd ar gael i awduron, a Bebil …
  continue reading
 
‘Dwi wir wedi fy llorio gan hyn’ yw un o’r pethau a ddywed Richard Wyn Jones ar ôl clywed am ragymadrodd syfrdanol yr Esgob Richard Davies i Destament Newydd 1567. Dyma ysgrif lenyddol fywiog sy’n hynod ddiddorol – ac yn hynod arwyddocoal – o safbwynt hunaniaeth Gymreig y cyfnod. Mae hefyd yn ddarn o bropanda Brotestannaidd sy’n troi’r gwirionedd y…
  continue reading
 
Yn y bennod hon, dechreuwn hoelio sylw ar bwnc sydd o’r pwys mwyaf i hanes yr Hen Iaith a’i llenyddiaeth – cyhoeddi’r Beibl yn Gymraeg. Dechreuwn y tro hwn gyda’r Testament Newydd a gyhoeddwyd yn 1567, gan egluro bod rhaid deall y cyd-destun gwleidyddol yn ogystal â’r cyd-destun crefyddol er mwyn deall y garreg filltir hon o ddatblygiad. Er bod rha…
  continue reading
 
Gwelwyd yn y bennod ddiwethaf fod y dyneiddiwr William Salesbury yn talu teyrned i’r bardd Gruffudd Hiraethog yn ei ragymadrodd i’r llyfr Oll Synnwyr Pen Cymro. Edrychwn ar ochr arall y geiniog yn y bennod hon, a hynny wrth i ni ddarllen cywydd o fawl a gyfansoddodd Gruffudd Hiraethog i’r dyneiddiwr.Er ein bod ni weithiau yn gweld y beirdd Cymraeg …
  continue reading
 
Trafodwn destun hynod gyffrous yn y bennod hon, sef rhagymadrodd William Salesbury i lyfr a gyhoeddwyd yn 1547, Oll Synnwyr Pen. Awgrymwn y gellid gweld y rhagymadrodd hwn fel maniffesto dyneiddiol Cymraeg, galwad sy’n cyflwyno agenda er mwyn diogelu a mireinio’r iaith. Defnyddiodd William Salesbury yr addysg a gafodd yn Rydychen a’i allu fel awdur…
  continue reading
 
Mae’r bennod hon yn cyflwyno pwnc a fydd yn ganolog i’r penodau nesaf hefyd, sef dyneiddiaeth yr unfed ganrif ar bymtheg. Gan fod gwrthryfel Glyndŵr wedi methu, nid oedd gan Gymru brifysgolion yn y cyfnod ac felly bu’n rhaid i’r Cymry breintieidig a oedd â digon o foddion i gael addysg prifysgol fentro y tu hwnt i ffiniau’u gwlad enedigol. Eglurwn …
  continue reading
 
Pennod 39 (cyfres 2, pennod 6)Mae’r bennod hon yn canolbwyntio ar y datblygiad technolegol hollbwysig hwnnw, y wasg argraffu. O gofio mai trafod hanes llenyddiaeth Gymraeg yw nod y podlediad hwn, dylid gweld dyfodiad y cyfrwng hwn fel carreg filltir ryfeddol o drawsffurfiannol o safbwynt cynhyrchu a lledaenu llenyddiaeth. Argraffwyd y llyfr Cymraeg…
  continue reading
 
Pennod 38 (cyfres 2, pennod 5)Trafodwn fardd benywaidd hynod ddiddorol yn y benod hon – Alis ferch Gruffudd neu ‘Alis Wen’, a fu’n canu yn ystod yr unfed ganrif ar bymtheg. Dynion oedd beirdd proffesiynol y cyfnod, ond dysgodd Alis grefft barddoni a chyfansoddodd nifer o gerddi gan ddefnyddio un o’r hen fesurau caeth, yr englyn unodl uniawn. Mae’n …
  continue reading
 
Pennod 37 (cyfres 2, pennod 4)Wedi trafod natur ac arwyddocâd cronicl mawr Elis Gruffydd yn y bennod ddiwethaf, edrychwn y tro hwn ar nifer o straeon a gynhwyswyd yn y gwaith sydd o ddiddordeb neilltuol. Mae’n bosibl edrych ar y straeon hyn fel chwedlau gwerin Cymraeg nas cofnodwyd mewn unman arall – hanesion a glywodd Elis ar lafar pan oedd yn ble…
  continue reading
 
Pennod 36 - (cyfres 2, pennod 3)Dyma gyflwyniad i awdur Cymraeg rhyfeddol, Elis Gruffydd, Cymro o sir y Fflint a fu’n filwr ym myddin Harri VIII ac yn aelod o warchodlu Calais. Yno ar y cyfandir yr ysgrifennodd ei gronicl hirfaith, hanes y byd o’r Creu Beiblaidd hyd at ddechrau’r 1550au, y testun naratifol hwyaf a ysgrifennwyd erioed yn yr iaith Gy…
  continue reading
 
Pennod 35 (cyfres 2, pennod 2)Roedd y bennod ddiwethaf yn amlinellu’r newidiadau mawr a ddaeth yn ystod oes y Tuduriaid. Mae’r bennod hon yn ystyried effaith rhai o’r newidiadau hyn ar y traddodiad barddol Cymraeg. Ond er gwaethaf yr holl drawsffurfiadau, gwelwn wrth graffu ar ychydig o ganu mawl o ddechrau’r cyfnod fod nifer o agweddau hynafol ar …
  continue reading
 
Dyma bennod gyntaf ail gyfres ‘Yr Hen Iaith’! Dechreuwn drafod llenyddiaeth Gymraeg yr unfed ganrif ar bymtheg trwy ystyried y datblygiadau hynny sy’n ein galluogi i wahaniaethu rhwng yr Oesau Canol a’r Cyfnod Modern Cynnar. Un o’r pethau sydd mor ddiddorol am y cyfnod hwn yw’r modd y gwelwn feirdd ac awduron Cymraeg yn ymaddasu ac yn ymateb wrth i…
  continue reading
 
Dyma edrych ymlaen at yr ail gyfres a fydd yn canolbwyntio ar lenyddiaeth y cyfnod modern cyntaf, gan ddechrau gyda’r trawsffurfiadau heriol a ddaeth yn oes y Tuduriaid.Introducing our second seriesHere’s looking forward to the second series, which will concentrate on literature of the early modern period, starting with challenging transformations …
  continue reading
 
Dyma ni’n cloi’r gyfres gyntaf a chlywed bod llênbaras Richard Wyn Jones wedi lleihau erbyn. Hefyd, er ein bod ni wedi gorffen trafod yr Oesau Canol, mae Jerry Hunter yn pwysleisio bod hanes llenyddiaeth Gymraeg yn unigryw ac wedi datblygu mewn modd unigryw./The End of the Middle AgesHere we reach the end of our first series and hear that Richard W…
  continue reading
 
Dyma bennod fyw arbennig a recordiwyd ym Mhabell Lên Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd, a pha beth gwell i’w drafod ar y maes ym Moduan na hanes yr eisteddfodau cynharaf?! A yw’n bosib gweld ‘Gwledd Arbenning’ a gynhaliwyd gan yr Arglwydd Rhys yn Aberteifi yn 1176 fel yr eisteddfod gyntaf a gofnodwyd? Ac wrth drafod eisteddfod a gynhaliwyd …
  continue reading
 
Ar wahân i bennod arbennig a recordiwyd yn yr Eisteddfod Genedlaethol ac a gaiff ei darlledu nesaf, hon yw pennod olaf cyfres gyntaf Yr Hen Iaith. Rydym ni’n gorffen trafod llenyddiaeth yr Oesoedd Canol a daw llawer o themâu’r gyfres ynghyd wrth i ni ystyried cywyddau brud yn gysylltiedig â ‘Rhyfel y Rhos’. Ystyr ‘brud’ yw proffwydodliaeth, a chawn…
  continue reading
 
Trafodwn un o feirdd Cymraeg pwsicaf y 15fed ganrif yn y bennod hon. Cafodd Guto’r Glyn oes hir, ac yntau wed’i eni ychydig o flynddoedd ar ôl diwedd gwrthryfel Glyndŵr ac wedi marw rai blynyddoedd ar ôl i Harri Tudur gipio coron Lloegr yn 1485. Roedd yn filwr proffesiynol ar adegau hefyd, ac agweddau ar ei waith yn dangos mor gyfarwydd ydoedd â rh…
  continue reading
 
Er mwyn dyfnhau’n dealltwriaeth o waith ‘Beirdd yr Uchelwyr’ neu’r Cywyddwyr, edrychwn yn y bennod hon ar rai o’u hymrysonau. Wrth ystyried cywyddau yr oedd beirdd yn eu cyfnewid, rydym ni’n archwilio cysylltiadau posib rhwng y farddoniaeth hon a chyd-destunau cymdeithasol coll. Mae’n debyg bod beirdd yn ymrysona am wahanol resymau yn y cyfnod – er…
  continue reading
 
Mae’n hen bryd i ni ganolbwyntio ar lenyddiaeth gan Gymraes. Gan ein bod wedi dechrau trafod cyfnod y cywydd, rydym ni’n neidio ymlaen ryw ganrif ac ychydig o oes Dafydd ap Gwilym yn y bennod hon er mwyn ystyried gwaith Gwerful Mechain, bardd benywaidd a oedd yn byw ac yn cyfansoddi yn ystod ail hanner y 15fed ganrif. Mae hefyd yn fodd i ni ystyrie…
  continue reading
 
Dywed Richard Wyn Jones rywbeth yn y bennod hon sydd, er ei fod yn sylw ffwrdd-a-hi, efallai’n dweud mwy am afiaith y farddoniaeth hon na holl draethu’i gyd-gyflwynydd. Dywed y byddai wedi astudio’r Gymraeg yn y brifysgol yn hytrach na Gwleidyddiaeth Ryngwladol, o bosib, pe bai wedi cael darllen y cerddi hyn yr ysgol! Dyna ddigon i awgrymu bod y ce…
  continue reading
 
Rydym ni’n parhau i drafod ffresni rhyfeddol barddoniaeth Dafydd ap Gwilym yn y bennod hon, gan bwysleisio bod newydd-deb ei gyfansoddiadau wedi’i greu gyda deunydd crai traddodiadol i ryw raddau. Ystyriwn ychydig o ganu serch Dafydd, gan ddechrau â’r cywydd ‘Morfudd fel yr Haul’, cyn craffu ar y modd y mae dwy thema fawr, serch a natur, wedi’u ple…
  continue reading
 
Dechreuwn drafod bardd Cymraeg enwocaf yr Oesau Canol y bennod hon – Dafydd ap Gwilym. Nid yw hanes ei fywyd yn gwbl sicr, ond tybir iddo gael ei eni tua 1315 a marw o gwmpas y flwyddyn 1350 – o bosibl oherwydd y Pla Du. Ond mae’n sicr bod oes a gwaith Dafydd yn cydfynd â dechrau oes y cywydddwyr – a chewch beth o hanes y cywydd yn y bennod hon hef…
  continue reading
 
Er ein bod ni wedi crybwyll y ffaith bod cymdeithas y Gymru ganoloesol yn drywadl Gristnogol, ac er ein bod wedi nodi agweddau creffyddol ar rai testunau llenyddol wrth fynd heibio, yn y bennod hon rydym ni’n canolbwyntio ar lenyddiaeth Gristnogol – ac yn bennaf, gwahanol draddodiadau’n ymwneud â’r seintiau Cymreig. Nodwn fod y Cymry yn weddol unig…
  continue reading
 
Cawn drafod un o gerddi enwocaf yr iaith yn y bennod hon, cerdd sy’n gysylltiedig ag un o drobwyntiau mwyaf yn hanes Cymru. Wrth i ni ddadansoddi Marwnad Llywelyn, ystyriwn y modd y gall llenyddiaeth fod yn danwydd i ddychymyg cenedl, a’r dychymyg hwnnw’n allweddol i allu cenedl i oroesi ar ôl iddi gael ei goresgyn. Trafodwn yr hyn a wyddys am fywy…
  continue reading
 
Rydym ni’n parhau i drafod Beirdd y Tywysogion yn y bennod hon, gan ganolbwyntio ar farddoniaeth sy’n gysylltiedig ag Owain Gwynedd a’i deulu. Wedi’i enwi’n ‘gyfaill y pod’ gennym yn barod, mae’n rhaid cyfrif Owain Gwynedd (c.1100-1170) ymysg y tywysogion pwysicaf. Yn wir, ef oedd y cyntaf i ddefnyddio’r teitl ‘Tywysog Cymru’ ac ef hefyd oedd Breni…
  continue reading
 
Dechreuwn drafod Beirdd y Tywysogion yn y bennod hon gan agor cil y drws ar gorff sylweddol o farddoniaeth Gymraeg hynod gain sydd hefyd yn hynod bwysig o safbwynt astudio hanes Cymru. Cawn gyfle i ystyried arwyddocâd Llawysgrif Hendregadredd (y llawysgrif sydd wedi diogelu’r rhan fwyaf o’r cerddi hyn), gwaith rhyfeddol o ddiddorol gan ei fod yn ff…
  continue reading
 
Yn y bennod hon trafodwn yr olaf o’r ‘chwedlau brodorol’ wrth i ni graffu ar saernïaeth gelfydd ‘Iarlles y Ffynnon’. Nodwn y duedd i ddefnyddio enw prif gymeriad gwrywaidd y chwedl hon, ‘Owain’, fel teitl gan fynnu mai’r teitl a geir yn Llyfr Coch Hergest sy’n gywir, ‘Iarlles y Ffynnon’. Ynghyd â Gwenhwyfar a’r forwyn Luned, mae’r Iarlles yn un o d…
  continue reading
 
Trafodwn y chwedl ‘Historia Peredur fab Efrog’ yn y bennod hon gan awgrymu’i bod yn disgrifio perthynas Peredur a’i fam mewn modd hynod ddynol a thyner. Mae gwrthgyferbyniad amlwg rhwng bydolwg gwrywaidd treisgar tad Peredur a doethineb ei fam. Ond er i’w fam geisio’i fagu mewn byd benywaidd yn bell o unrhyw sôn am arfau a rhyfel, ac er iddi ddweud…
  continue reading
 
Yn y bennod hon, trafodwn chwedl gwbl ryfeddol sy’n llunio fersiwn unigryw o fyd arwrol Arthur er mwyn tynnu sylw at ddiffygion gwleidyddol y byd go iawn. Y Gymru ganoloesol yw’r byd go iawn hwnnw, ac mae ymrafael rhwng tywysog a’i frawd yn bygwth heddwch y deyrnas. Mae’r negesydd Rhonabwy yn ceisio’i orau i helpu ond mae’n syrthio i gysgu – mewn t…
  continue reading
 
Trafodwn y chwedl ‘Ystoria Geraint fab Erbin’ yn y bennod hon gan ystyried ei pherthynas â cherdd storïol y bardd Ffrangeg Chrétien de Troyes. A yw’n bosibl mai trosiad o’r testun Ffrangeg yw’r chwedl Gymraeg, mewn gwirionedd? A yw’n iawn cynnwys ‘Geraint’ ymysg y ‘chwedlau brodorol’? Awgrymwn fod awdur Cymraeg wedi cymryd stori Chrétien a’i gwisgo…
  continue reading
 
Mae’r bennod hon yn gyfle i ni fyfyrio ynghylch y berthynas rhwng llenyddiaeth Gymraeg a llenyddiaeth gyfandirol wrth i ni drafod y cam nesaf yn natblygiad y chwedloniaeth Arthuraidd. Beth am y chwedlau ‘brodorol’ Cymraeg hynny sy’n dangos dylanwad llenyddiaeth Ffrangeg? Sut mae canfod creadigaethau artistig sydd wedi’u hadeiladu ar sylfeini Cymrei…
  continue reading
 
Pwnc ychydig yn wahanol sydd gennym y tro hwn, un a gododd yn y penodau diwethaf wrth drafod llenyddiaeth Arthuraidd Gymraeg gynnar. Yn y bennod hon, rydym ni’n olrhain cyfeiriadau llenyddol at gad Gamlan trwy ganrifoedd o lenyddiaeth Gymraeg. Brwydr fawr olaf yr arweinydd enwog oedd cad Gamlan, cyflafan a chwalodd deyrnas ac oes aur Arthur. Awgrym…
  continue reading
 
Rydym ni’n gorffen trafod y chwedl ‘Culhwch ac Olwen’ yn y bennod hon, gan ddechrau gyda’r chwech arwr y mae Arthur yn eu dewis i helpu Culhwch gael hyd i ferch Ysbaddaden Pencawr. (Ac felly, ynghyd â’r darpar briodfab ei hun, dyma fersiwn Cymraeg canoloesol o’r ‘Saith Samauri’ neu’r ‘Magnificent Seven’!)Mae Olwen yn ymddangos o’r diwedd – a chawn …
  continue reading
 
Gan fod ‘Culhwch ac Olwen’ yn chwedl mor fawr a mor bwysig, rydym wedi neilltuo dwy bennod gyfan i’w thrafod hi. Eglurwn yn y bennod hon pam fod y stori ganoloesol hon mor ddiddorol a pham bod y testun llenyddol hwn mor bwysig. Dyma gyfle i weld yr Athur Cymreig a Chymraeg cynhenid ar ei orau, yng nghanol camp a rhemp llys sy’n llawn cymeriadau rhy…
  continue reading
 
O ystyried holl gynnyrch diwylliannol yr iaith Gymraeg trwy’r canrifoedd, beth, tybed, a gafodd y dylanwad mwyaf ar ddiwylliannau ieithoedd eraill a gwledydd eraill? Awgrymwn yn y bennod hon mai straeon am y brenin arwrol Arthur yw’r ateb. Erbyn diwedd yr Oesau Canol, byddai’r chwedloniaeth hon wedi teithio ar draws Ewrop ac esgor ar lenyddiaeth Ar…
  continue reading
 
Yn y bennod hon trafodwn ‘Ganu Heledd’, y farddoniaeth ganoloesol sy’n gysylltiedig â stori tywysoges o hen deyrnas Powys a dystiodd i farwolaeth ei theulu a chwalfa’i chymdeithas. Ond yn hytrach nag adrodd y stori, mae’r cerddi telynegol hyn yn canolbwyntio ar ymateb emosiynol Heledd. Dyma lenyddiaeth sy’n trafod colled, galar a hiraeth mewn modd …
  continue reading
 
Cyfranc Lludd a Llefelys sydd dan sylw yn y bennod hon. Er ei bod hi’n chwedl fer iawn, mae’n stori fawr, ac mae’n bosib ei gweld hi fel pont rhwng chwedloniaeth Gymreig a hanesyddiaeth Gymreig. Wrth fwrw golwg ffantasïol ar hanes, mae’n mynd i’r afael â’r thema honno sy’n ganolog i hunaniaeth Gymreig, sef y ffaith bod y Cymry’n ddisgynyddion i dri…
  continue reading
 
Trafodwn yn y bennod hon yr olaf o Bedair Cainc y Mabinogi, sef chwedl ‘Math fab Mathonwy’. Edrychwn ar realiti hyll Cymru’r Oesau Canol a nodi bod aelodau o’i deulu’i hun yn gymaint o fygythiad i dywysog Cymreig na gelynion posibl y tu hwnt i ffiniau’i deyrnas. Er gwaethaf holl hud a lledrith y stori hon, awgrymwn y gellir ei dadansoddi yng nghyd-…
  continue reading
 
Trafodwn Drydedd Gainc y Mabinogi yn y bennod hon, chwedl ‘Manawydan fab Llŷr’, stori sy’n wrthbwynt i’r ceinciau eraill ac sydd â gwrthgyferbyniadau trawiadol mewnol. Yn hytrach na brwydrau mawr epig a champau arwrol, yr hyn a gawn yn y stori hon yw myfyrdodau ynghylch seiliau cymdeithas a hanfod gwareiddiad. Mae’r testun hwn yn hollbwysig hefyd e…
  continue reading
 
Awgrymwn yn y bennod hon ei bod hi’n bosib darllen yr Ail Gainc fel beirniadaeth gymdeithasol radicalaidd. Ar ddechrau Chwedl Branwen ferch Llŷr daw Matholwch, Brenin Iwerddon, i ‘erchi’ Branwen, gan feddwl y bydd y briodas frenhinol yn sylfaen i gynghrair gwleidyddol a all wneud y ddwy ynys yn ‘gadarnach’. Ond yn hytrach na heddwch a chynnydd, mae…
  continue reading
 
Yn y bennod hon trafodwn gainc gyntaf ‘Pedair Cainc y Mabinogi’, Chwedl Pwyll Pendefig Dyfed. Er bod Pwyll ‘yn arglwydd ar saith cantref Dyfed’, fel y dywed brawddeg gyntaf y chwedl , nid oes ganddo lawer o ddoethineb. Yn wir, mae’n bosibl ei gweld hi fel stori am sut mae Pwyll yn dysgu bod yn bwyllog. Mae’n ymddwyn mewn modd byrbwyll nifer o weith…
  continue reading
 
Y Mabinogion sydd dan sylw yn y bennod hon, ond rhaid egluro’n gyntaf nad dyna’r gair gorau i ddisgrifio’r straeon Cymraeg canoloesol hyn! Mae’n debyg mai William Owen Pughe (1759-1835) a fathodd y label, ond oherwydd cyfieithiadau Saesneg yr Arglwyddes Charlotte Guest (1812-1895) y daeth yn arferol i bobl led-led y byd gyfeirio at y chwedlau hyn f…
  continue reading
 
Loading …

Guia rápido de referências